Pam cael waled coffa?

I gadw adref neu i’w roi i aelod arall o’r teulu neu i ffrindiau. Mae’r gofeb yma yn bersonol ac yn hyblyg iawn ar ffurf waled.

Mae wedi ei greu o dri phanel, pob un ohonynt yn medru cael ei ddefnyddio i ddal arysgrif neu lun ffotograffig. Gan fod yna dri phanel, mae’r Waled yn medru sefyll ar silff pen tân neu ar silff er mwyn hwyluso ei weld.

Cynlluniwyd i chi

Mae arysgrifau â llaw yn cychwyn gyda llythyren aur a gall fod yn rhyddiaith, barddoniaeth neu’n feddargraff ar yr un ffurf â’r arysgrifau yn y Prif Lyfr Coffadwriaeth. Codir pris yn yr un modd â’r Arysgrifau yn y Cardiau Coffau.

Yn ychwanegol gallwn gynnwys ffotograffau digidol o’r sawl a fu farw neu unrhyw lun arall yr ydych yn ei ddarparu. Gallwch ddarparu hwn yn ddigidol neu fel copi caled neu ffotograff – gallwn ni ei addasu ar eich rhan. Rhaid i’r llun gwreiddiol fod mewn ffocws ac ni all fod yn llai na 6cm sgwâr i gael y canlyniad gorau.

Gellir defnyddio’r paneli ffotograffau hefyd i adrodd hanes bywyd yr ymadawedig. Os ydych yn darparu testun, mae pob panel yn mesur 13cm o led a 15cm o uchder (tua 5” x6”). Mae’n bwysig codio’r maint er mwyn cyfyngu ar y testun a gwneud yn siŵr ei fod yn glir.

A trydydd posibilrwydd yw defnyddio panel fel poced gofio er mwyn cynnwys lluniau, atgofion personol y sawl a fu farw.

Mae’n bosib defnyddio’r Waled fel ffordd o goffáu i fwy nag un person os ydych yn dymuno. Mae pob math o amrywiaethau yn bosib.

Mae tri dewis lliw ar gyfer y dudalen flaen a’r rhwymyn: Coch, gwyrdd neu glas. Mae dau ddewis o ddefnydd ar gyfer y blaen: rhwymiad lliain ansawdd uchel neu ledr esmwyth.

Postiwch y ffurflen wedi’i chwblhau a siec i:

Amlosgfa Parc Gwyn
Arberth
Sir Benfro
SA67 8UD

Prisio

Waled Coffáu
Opsiynau Pris
Waled Frethyn (cost arysgrif yn ychwanegol fel isod) £20
Waled Ledr (cost arysgrif yn ychwanegol fel isod) £26.50
Arysgrif dwy linell £20
Arysgrif pum llinell £23
Arysgrif wyth llinell £31
Darlun wedi’i beintio â llaw £64.50
Gosod ffotograff neu ddarlun mewn Waled £16.50
Poced mewn Waled Frethyn yn unig £5